Hafan
Angen Cymorth ar Frys?
Nid yw’r Gwasanaeth Cynradd i Gynorthwyo Iechyd Meddwl (PMHSS) yn wasanaeth addas ar gyfer pobl mewn argyfwng neu pobl sydd angen cymorth ar frys.
Os ydych chi, neu rhywun arall, mewn argyfwng, deialwch 999.
Os ydych chi, neu rhywun arall, ddim mewn argyfwng ond angen cymorth ar frys, cysylltwch â’ch Meddyg Teulu i ddechrau i alluogi cyfeiriad at y gwasanaethau priodol. Os ydych angen cymorth ar frys tu allan i oriau arferol eich Meddyg Teulu, dylech fynd at y Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys (A&E).
Os oes angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch, neu os nad ydych yn siŵr ble i droi i gael cyngor ac arweiniad ar eich iechyd meddwl, ffoniwch 111 a phwyswch 2. Mae cymorth iechyd meddwl ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos trwy ffonio GIG 111 Cymru a dewis opsiwn 2. Dysgwch fwy yma.
Os ydych angen siarad efo rhywun heddiw, cysylltwch â:
Llinell Gyngor a Gwrando’s Gymuned
0800 132737 (Ar gael 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos) Yn cynnig cefnogaeth emosiynol, gwybodaeth a llenyddiaeth ar iechyd meddwl a phynciau cysylltiedig ar gyfer pobl yng Nghymru. Mi all unrhyw un sy’n bryderus am eu iechyd meddwl, neu iechyd meddwl rhywun arall, gysylltu â’r gwasanaeth.
08457 909090 (Ar gael 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos) Yn cynnig cymorth emosiynol cyfrinachol, am ddim, dros y ffôn i unrhyw un sydd yn teimlo’n anobeithiol neu yn ddigalon, yn cynnwys pobl sydd yn meddwl cymeryd eu bywydau eu hunain. Mae’n bosibl i gwrdd â aelod o’r staff yn eu swyddfeydd lleol.
0300 123 3393 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am – 5pm).
Cymorth cyfrinachol, am ddim a gwybodaeth am nifer o wahanol broblemau iechyd meddwl.
0800 4708090 (open 24 hours a day, 7 days a week)
Llinell gymorth cyfrinachol, am ddim, ar gyfer pobl hŷn.
0808 8023456 (Ar gael bob diwrnod o 8am i ganol nos)
Llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc.
0300 2225757 (Ar gael Dydd Llun i Ddyd Gwener, 9am – 5pm)
Gwêfan gyda deunydd defnyddiol ac erthyglau ‘cymorth cyfoedion’ a llinell gymorth eiriolaeth i gefnogi teuluoedd i gysylltu â unrhyw wasanaethau perthnasol.
Grwpiau therapiwtig yng Nghaerdydd a’r Fro
Rydym yn cynnig grwpiau therapiwtig mwy dwys, gyda llai o bobl ac awyrgylch sydd yn fwy agos atoch.
I’ch galluogi chi i ddod i un o’r grwpiau yma, sicrhewch bod cyfeiriad yn cael ei wneud at y Gwasanaeth Cynradd i Gynorthwo Iechyd Meddwl (PMHSS) gan eich Meddyg Teulu neu’r Gwasanaeth Gweithredu dros Iechyd Meddwl Caerdydd a’r Fro. Mae’r grwpiau yma ar gyfer pobl 18+. Cyfeiriwch at y Gwasanaeth Plant a Phobl ifanc os ydych eisiau cymorth ar gyfer rhywun o dan 18.
Rydym yn cynnal y cyrsiau rheolaidd canlynol:
Living Life to the Full (CBT) ar gyfer pobl â phryder ac iselder.
Mindfulness for Wellbeing
Behavioural Activation
Mae gwasanaethau eraill hefyd yn rhedeg grwpiau gwahanol. Os fyddai un o’r grwpiau eraill yma yn berthnasol i chi, bydd un o’n tîm yn gallu esbonio mwy yn ystod eich asesiad.
Os ydych yn credu fyddai un o’r grwpiau therapiwtig yma yn ddefnyddiol i chi, sicrhewch eich bod yn cael eich cyfeirio at Gwasanaeth Cynradd i Gynorthwyo Iechyd Meddwl (PMHSS). Bydd ein asesiad yn helpu sicrhau eich bod yn mynd i’r grwp mwyaf addas i chi.
Os nad yw eich Meddyg Teulu yng Nghaerdydd neu’r Fro, ond mae gennych ddiddordeb dod i’r grwpiau therapiwtig, dylech allu cael mynediad drwy eich Bwrdd Iechyd lleol, er enghraifft:
Abertawe Bro Morgannwg UHB, Aneurin Bevan UHB, a Cwm Taf UHB
Cyrsiau i’r Cyhoedd yng Nghaerdydd a’r Fro
Mae’r Gwasanaeth Cynradd i Gynorthwyo Iechyd Meddwl (PMHSS) yn rhedeg gwahanol gyrsiau addysgiadol i’r cyhoedd yn y gymuned. Mae’n bosibl i chi ymuno ar unrhyw adeg, hyd yn oed os ydy’r cwrs wedi cychwyn, gan ei fod hi’n bosibl i chi fynd i’r cwrs canlynol i ddal i fyny gyda unrhyw sesiynau rydych wedi colli. Mae’r sesiynau yn hunan-gynhwysol felly does dim angen i chi boeni am fethu cadw i fyny â’r sesiynau.
Mae’r cyrsiau yma yng Nghaerdydd a’r Fro ar gael i bawb – nid oes angen bwcio eich lle, dim ond dod! Mae’n anhebyg i’r cyrsiau fod yn hollol lawn ond os ydy’r cyrsiau yn llewni, bydd y llefydd yn mynd i’r bobl sydd yn cyrraedd gyntaf.
Os nad yw eich Meddyg Teulu yng Nghaerdydd neu’r Fro, ond mae gennych ddiddordeb dod i’r cyrsiau, dylech allu cael mynediad i’r cyrsiau drwy eich Bwrdd Iechyd lleol, er enghraifft:
Abertawe Bro Morgannwg UHB, Aneurin Bevan UHB, a Cwm Taf UHB
Cyrsiau lleol eraill:
Education Programs for Patients (EPP) Cardiff
Education Programs for Patients (EPP) Vale of Glamorgan
Cysystwll â ni: 02920 906223
Beth rydym ni’n ei wneud
Mae’r Gwasanaeth Cynradd i Gynorthwyo Iechyd Meddwl (PMHSS) yn wasanaeth i bobl o bob oedran sydd yn byw gyda phroblemau iechyd meddwl yn cynnwys straen, pryder ac iselder. Mae’r Gwasanaeth ar gyfer pobl sydd yn byw yng Nghaerdydd neu’r Fro. Mae’r Gwasanaeth ar gael yn rhad ac am ddim fel rhan o’r NHS.
Mae’n Gwasanaeth yn canolbwyntio ar welliant. Mae hwn yn golygu bydd pob person yn derbyn cymorth i ddarganfod beth sydd yn bwysig iddynt, ac y cyfle i weithio tuag at eu nod.
Cysylltu â’r Gwasanaeth Cynradd i Gynorthwyo Iechyd Meddwl:
Siaradwch efo’ch Meddyg Teulu os ydych yn credu bod y Gwasanaeth yma yn berthnasol i chi. Mi all eich Meddyg Teulu eich cyfeirio atom ni gyda eich caniatad.
Rydym yn ceisio cysylltu â chi o fewn 28 diwrnod o dderbyn eich cyfeireb i gynnig asesiad dros y ffôn. Mae hwn yn gyfle i drafod eich opsiynnau ac i chi gael gwybodaeth am y gwasanaethau lleol a’r cymorth tymor-byr perthnasol sydd ar gael i chi. Weithiau, yr opsiwn mwyaf perthnasol bydd cyfeririad at dîm gwahanol, a fyddai hyn yn cael ei drafod ac ei egluro i chi.
Ymwelwch â’r wêfan Galw Iechyd Cymru i ddarganfod manylion eich Meddyg Teulu. Dydy ein tîm ni ddim yn addas i bobl sydd angen cymorth ar frys.
Mae’n bosibl i’ch Meddyg Teulu hefyd eich cyfeirio at y Gwasanaeth Cownslera Cynradd.
Os ydych wedi bod mewn rhyfel, efallai bydd y wêfan Veterans' NHS Wales yn ddefnyddiol i chi.
Tudalen 3 o 5