I gyrchu'r adnoddau a’r deunyddiau a ddefnyddir ar y cwrs cyn y digwyddiad, cliciwch yma. Rydym yn argymell i chi darllen y deunyddiau paratoi ar gyfer y cwrs cyn mynychu.
Rheoli Straen – Beth yw hyn?
Mae straen yn broblem gyffredin ym Mhrydain sy’n effeithio ar bedwar o bob deg person ac yn arwain at ymweliadau â meddygon teulu ynglŷn â symptomau fel stumogau cythryblus, cur pen, cwsg gwael, yn ogystal â phroblemau iechyd meddwl. Mae straen yn medru llethu a blino unigolyn, a gall effeithio ar unrhyw un - waeth beth fo'u cefndir, eu hoedran na’u rhyw. Er bod straen yn rhan arferol o fywyd, mae modd ei reoli.
Mae'r cwrs Rheoli Straen, a gynigir gan y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol ar gyfer Caerdydd a'r Fro, yn rhaglen am ddim am gyfnod o chwe wythnos. Mae’r cwrs wedi ei gynllunio i’ch helpu i ganfod dulliau o reoli straen yn effeithiol. Mewn sesiynau wythnosol 2 awr, byddwch yn dysgu am dechnegau newydd ac yn cael pecyn cymorth cynhwysfawr ar ddiwedd y cwrs. Nod y cwrs hwn yw grymuso unigolion i reoli eu straen yn well. Er bod achosion straen yn medru bod yn gymhleth, mae’n bosibl ymdopi â straen a’i reoli.
Mae'r cwrs yn agored i'r cyhoedd*. Does dim angen cofrestru ar ei gyfer. Os ydych chi’n methu â mynychu sesiwn, peidiwch â phoeni: gallwch ddal i fyny trwy fynychu cwrs rheoli straen arall i’r dyfodol, neu’r sesiwn benodol a gollwyd gennych.
Mae'r cwrs yn rhedeg yn wythnosol am 6 wythnos. Mae pob sesiwn yn 2 awr o hyd sy'n cynnwys seibiant byr.
Sesiwn 1: Beth yw Straen?
Sesiwn 2: Rheoli eich corff
Sesiwn 3: Rheoli eich meddyliau
Sesiwn 4: Rheoli eich gweithredoedd
Sesiwn 5: Rheoli teimladau panic a chael noson dda o gwsg
Sesiwn 6: Hybu eich lles, clymu popeth at ei gilydd a rheoli eich dyfodol
*Er bod Rheolaeth Straen yn gwrs mynediad agored, cwrs i oedolion (18+) yn unig ydyw. Mae croeso i chi ddod â rhywun gyda chi.
I gyrchu’r deunyddiau cyn-cwrs a deunyddiau cwrs am ddim, cliciwch yma. Rydym yn argymell darllen y ‘deunyddiau paratoi ar gyfer y cwrs’ cyn mynychu.
Cyrsiau sydd ar y gweill
2024
Grange Pavilion - 6 wythnos o 30/09/2024 11:45-13:45
Chapter Arts (ystafell pwynt cyfryngau) - 6 wythnos o 07/11/2024 13:00-15:00
2025
Chapter Arts (ystafell pwynt cyfryngau) - 6 wythnos o ddydd Iau 09/01/2025 13:00-15:00
Chapter Arts (ystafell pwynt cyfryngau) - 6 wythnos o ddydd Iau 27/02/2025 13:00-15:00
Chapter Arts (ystafell pwynt cyfryngau) - 6 wythnos o ddydd Mawrth 06/05/2025 13:00-15:00
Chapter Arts (ystafell pwynt cyfryngau) - 6 wythnos o ddydd Mawrth 17/06/2025 13:00-15:00
Chapter Arts (ystafell pwynt cyfryngau) - 6 wythnos o ddydd Mawrth 09/09/2025 13:00-15:00
Chapter Arts (ystafell pwynt cyfryngau) - 6 wythnos o ddydd Mawrth 28/10/2025 13:00-15:00
Cyrsiau sydd ar y gweill:
Lleoliad |
Chapter Arts, Market Rd, Cardiff CF5 1QE Accessible by Cardiff Bus, 13, 17 and 18. |
Amser |
12:30-14:30
|
Dates |
07/11/2024 - Sesiwn 1: Beth yw Straen? 09/01/2025 - Sesiwn 1: Beth yw Straen? 27/02/2025 - Sesiwn 1: Beth yw Straen? 06/05/2025 - Sesiwn 1: Beth yw Straen? 17/06/2025 - Sesiwn 1: Beth yw Straen? 09/09/2025 - Sesiwn 1: Beth yw Straen? 28/10/2025 - Sesiwn 1: Beth yw Straen? |
Accessibility |
#Lleoliad hygyrch i bawb gyda chyfleusterau. Mae’r lleoliad ar lawr cyntaf gyda mynediad trwy lifft. Parcio – Mae gan Chapter faes parcio. Parcio ar y stryd yn gyfyngedig. |
Mae ein partneriaid trydydd sector gwerthfawr hefyd yn rhedeg ystod o gyrsiau a gwasanaethau.
Ar gyfer cyrsiau ym Mro Morgannwg - cliciwch yma.
Ar gyfer cyrsiau yng Nghaerdydd - cliciwch yma