Beth yw’r grwpiau Living Life to the Full?
Mae’r grwp wedi ei seilio ar dechnegau therapi ‘cognitive behavioural’ (CBT) i helpu problemau cyffredin fel straen, poeni, iselder a phryder. Mae CBT yn ddull seicolegol sydd yn edrych ar sut mae ein meddyliau yn gweithio, sut rydym yn teimlo ac sut rydym yn ymddwyn a sut mae’r pethau yma ynghlwm efo’u gilydd.
Pwrpas y grwp yma yw i’ch helpu i gael mwy o reolaeth dros sut rydych yn teimlo. Mae’r sesiynau yn eich galluogi chi i ddatblygu sgiliau ymarferol i wella eich bywydau un cam ar y tro. Mae pynciau’r sesiynau yn ddiddorol iawn ac yn gallu body n ddefnyddiol i unrhywun o unrhyw gefndir, mewn unrhyw sefyllfa. Bydd y grwp hefyd yn eich annog i ddefnyddio’r sgiliau newydd rydych yn dysgu rhwng y sesiynau.
Oes rhaid i mi drafod problemau neu faterion personol?
Mae croeso i chi rannu pethau personol efo’r grwp os ydych yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud, ond does dim pwysau arnoch i rannu unrhywbeth os nad ydych eisiau gwneud.
Am ba mor hir mae’r grwp yn para?
Mae’r sesiynau yn cael eu cynnal yn wythnosol. Rydym yn eich annog i ddod i bob sesiwn os yn bosibl fel eich bod yn gwneud y gorau o’r cyfle i elwa o’r grwp. Cofiwch i gadarnhau manylion y grwp pan yn bwcio.
Hyd y Grwp | Hyd y Sesiynau |
7 Wythnos | 2 awr |
Pwy fydd yna?
Rydym yn ceisio sicrhau fod y grwp yn ddigon bach i alluogi trafodaeth cyfforddus. Mi fydd pawb sydd yn dod i’r grwp wedi cael asesiad gan y Gwasanaeth Cynradd i Gynorthwo Iechyd Meddwl (PMHSS). Mae pob un o’r grwpiau yn cael eu rhedeg gan weithwyr iechyd meddwl.
Mae’n hollol naturiol i bobl deimlo’n bryderus ynglyn â cwrdd â’r grwp am y tro cyntaf. Fodd bynnag, oherwydd yr awyrgylch anffurfiol a chynorthwyol, mae pryder pobl yn tueddu i ddiflannu ar ôl y sesiwn cyntaf.
Sut ydw i’n bwcio lle?
I geisio sicrhau fod y grwpiau ar gael i gymaint o bobl â phosibl, rydym yn cynnal y cyrsiau mewn gwahanol lefydd ar draws Caerdydd a’r Fro, ac ar wahanol adegau o’r dydd a gyda’r nos, i geisio gweddu i amserlenni gwahanol. I gael mynediad i’r grwpiau Living Life to the Full, sicrhewch fod eich Meddyg Teulu neu eich Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn eich cyfeirio at y Gwasanaeth Cynradd i Gynorthwyo Iechyd Meddwl (PMHSS) ar gyfer asesiad gan ein tîm.