Telerau Defnydd / Ymwadiad
Defnydd a ganiateir
Caiff ymwelwyr â www.stepiau.org (y wefan hon) ganiatâd i gael mynediad i ddeunyddiau cyhoeddedig (cynnwys) yn amodol ar yr amodau hyn. Wrth ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i rwymo’ch hun i’r amodau defnydd. Tra bo modd cael mynediad i’r cynnwys, ei lawrlwytho a’i ddefnyddio ar gyfer pwrpasau personol ac anfasnachol (e.e. ymchwil preifat, astudio neu ddefnydd mewnol), ni chaiff ymwelwyr atgynhyrchu nac ail-gyhoeddi unrhyw ddeunydd o’r wefan hon heb ganiatâd y wefan / perchennog yr hawlfraint. Mae’r delweddau, logos a’r graffeg a ddefnyddir ar y safle hwn yn eiddo i ni a/neu drydedd pleidiau. Ni ddylid defnyddio’r rhain heb geisio caniatâd gan berchennog yr hawlfraint. Rydych yn cydnabod bod holl hawliau eiddo deallusol sy’n ymwneud â’r wefan hon yn eiddo’r Primary Mental Health Support Service (PMHSS) a lle bo’n berthnasol, cyd-gyfranogion trydedd blaid.
Gwybodaeth bersonol
Pan fyddwch yn cyflwyno data adnabyddadwy yn wirfoddol i’r wefan hon (mae hyn yn cynnwys cyflwyno ffurflenni adborth, holiaduron, ayyb.), caiff y wybodaeth a gyflwynir ei defnyddio’n unig i ymateb i’ch ymholiadau ac ar gyfer y pwrpas y’i bwriadwyd. Dydyn ni ddim yn rhannu gwybodaeth defnyddwyr y we gyda thrydedd pleidiau.
Gwarchod rhag Firysau
Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar gyfer firysau. Fodd bynnag, fe argymhellir eich bod yn rhedeg rhaglen gwrth-firws ar yr holl ddeunyddiau a lawrlwythir o’r rhyngrwyd. Allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i’ch data neu’ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd sy’n deillio o’r wefan hon.
Ymwadiad
Cymerir gofal i sicrhau bod cynnwys y wefan yn fanwl gywir. Er hynny, mae’r cynnwys yn cael ei ddarparu fel gwybodaeth gyffredinol yn unig, a byddwch yn ei ddefnyddio ar eich cyfrifoldeb eich hun. Fyddwn ni ddim yn atebol am ddifrod neu golled sy’n dilyn unrhyw weithred neu esgeulustod fel canlyniad i ddefnyddio gwybodaeth ar y wefan hon.
Gwefannau Allanol
Dydi’r Primary Mental Health Support Service (PMHSS) ddim yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefan gysylltiol. Dydyn ni ddim yn derbyn unrhyw atebolrwydd o ran y cynnwys nac am ganlyniadau dilyn unrhyw gyngor sydd i’w weld ar wefannau o’r fath. Ni ddylid derbyn rhestru fel ategiad o unrhyw fath. Allwn ni ddim â gwarantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio pob tro a does gynnon ni ddim rheolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiol nag unrhyw newid cyfeiriad gwefan. Mae’r Primary Mental Health Support Service (PMHSS) yn cadw’r hawl i wrthod neu ddileu dolenni i unrhyw wefan.
Deunydd wedi’i Gyfieithu
Gall y bydd deunydd yn cael ei gyfieithu trwy ddefnyddio cyfieithiad cyfrifiadurol awtomataidd ac, fel y cyfryw, ddim o reidrwydd yn gyfieithiad perffaith ac yn agored i gamgymeriadau na fase bod dynol fel arall yn ei wneud. Dylid defnyddio’r cyfieithiad fel canllaw bras yn unig. Dydi’r Gwasanaeth Cefnogi Iechyd Meddwl Sylfaenol (GCIMS) ddim mewn unrhyw ffordd yn derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb y cyfieithiadau hyn nag am unrhyw golled sy’n deillio ohonyn nhw.
Gwelliannau Pellach
Fe fydd newidiadau dilynol i’r amodau hyn ar gael i’w gweld ar y wefan hon.
Cwcis
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis. Rydym wedi gosod cwcis ar eich dyfais i helpu i wneud y wefan hon yn well. Os nad ydych eisiau defynddio cwcis, cysylltwch nhw analluoga drwy eich porwr gwe. Am fwy o wybodaeth gweler www.ico.org.uk/for-the-public/online/cookies